| R. HUGHES: |
Wel 'rwan W. O. Roberts
- chi fedr ddeud hanes y trysor wrthan ni - roeddach chi yn y fan
a'r lle pan codwyd o o'r gors. |
| W. O. ROBERTS: |
Tydw i ddim ishio
brolio, ond fi gafodd hyd i lawer iawn ohono fo. |
| R. HUGHES: |
Felly - ond sut oeddach
chi'n gwybod fod y petha o werth? Mi welis i rai ohonyn nwy - a
faswn i fy hun yn meddwl dim ohonyn nhw. |
| W. O.
ROBERTS: |
Doeddan
ninnau ddim yn gwybod ar y dechra chwaith - dyna sut yr aeth cymaint
ohono ar goll. |
| R. HUGHES |
Wel deudwch yr hanes
wrthan ni o'r dechra Mr. roberts! Nid cael hyd i ryw "chain"
ddaru nhw? |
| W. O.
ROBERTS: |
Fel hyn 'roedd hi.
'Roeddan ni'n paratoi lle i'r Americanwyr. Yno 'roedd yr awyrennau
mwya i fod i lanio, ac oddi yno ar ddiwedd y rhyfel, y ffliodd yr
8th Air Force yn ôl i'r Merica. Welsoch chi rioed y fath le
- wn i ddim be fasa Madam Wen yn ddeud! Beth bynnag - 'roeddan ni
wrthi hi'n paratoi y runways, ac yn codi mawn o'r gors hefo peiriant
a rhyw fath o grafangau mawr arno fo. Wedyn 'roeddan ni'n gosod
y mawn yn bentyrrau yma ac acw ar yr erodrom, yn barod i'w daenu
a'i lyfnu. Un diwrnod mi ddaru 'na chain fawr fachu yn yr og. Ac
wedi'i chael hi'n rhydd mi cymerwyd hi gan ddreifar tractor, i lusgo
lorries o'r mwd ac ar draws y tywod, am fod y chain oedd ganddo
fo wedi torri. Dyna sut y dechreuodd petha. |
| R. HUGHES: |
Sut chain oedd hi
Mr. Roberts? |
| W. O.
ROBERTS: |
'Roedd hi'n mesur
rhyw ddeg troedfedd o hyd, ac yma ac acw, 'roedd ynddi hi fodrwy
neu link yn ddigon mawr i fynd rownd gwddw rhywun - 'roedd 'na bump
os 'dw i'n cofio'n iawn. Ac erbyn gweld, chain i ddal pump o garcharorion
efo'i gilydd oedd hi - neu bump o gaethweision - a'r modrwya mawr
'ma yn mynd rownd 'u gyddfa - y creaduriaid! |
| R. HUGHES: |
Ond wrth gwrs doeddach
chi ddim yn gwbod hynny ar y pryd. |
| W. O.
ROBERTS: |
O nag oeddan. Rhywun
ddaru ddeud amdani wrth yr Engineer, Mr Jones, a mi welodd hwnnw
bod hi allan o'r cyffredin, ac yn debyg o fod yn hen iawn. A dyma
nhw'n anfon am Syr Cyril Fox. |
| R HUGHES: |
Mi 'dw i'n cofio'i
weld o o gwmpas y lle. |
| W. O.
ROBERTS: |
Mi welodd ar unwaith
fod 'na drysor Celtaidd wedi cael ei gladdu rywdro neu'i gilydd
yn y gors. Yn anffodus 'roedd llawer iawn ohono wedi cael ei chwalu
ar hyd a lled yr erodrom. Mae un dyn yn cofio taflu cylch olwyn
yn ôl i'r gors, a dydi hwnnw byth wedi dwad i'r golwg wedyn.
Ond o hynny ymlaen, 'roedd y gweithwyr i gyd ar y "look out"
wrth daenu'r mawn. |
| R. HUGHES: |
A mi ddowd o hyd i
bob math o betha on'd do? |
| W. O.
ROBERTS: |
Do - bob math. Darnau
o harnis ceffylau, darnau o olwynion a cherbyda, cleddyfau a gwawywffyn
ag ôl rhyfela arnyn nhw. A mi ges i hyd i gryman yno hefyd,
yn debyg iawn i gryman heddiw, ond yn llai. |
| R. HUGHES: |
Mi glywis i sôn
am ryw utgorn yno hefyd - welsoch chi hwnnw? |
| W. O.
ROBERTS: |
Dim ond darn o hwnnw
ddaeth i'r golwg. Mae nhw'n deud mai dim on dau utgorn o'r fath
sy'n bod, a rheiny yn y Werddon. |
| R. HUGHES: |
Oedd rhywun yn medru
rhoi rhyw syniad pa mor hen oeddan nhw? |
| W. O. ROBERTS: |
Dwy fil o flynyddoed! |
| R. HUGHES: |
Ac i feddwl fod chain
gafodd 'i gneud ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn dal yn ddigon
cry' i dynnu lorriau trymion y'n dyddia ni! Mae o'n wyrthiol o beth
cofiwch! |
| W. O. ROBERTS: |
Ydi mae o. |
| J. OWEN: |
Mi glywis i nad oedd
'na ddim byd Rhufeinig yn 'u mysg nhw, yn profi 'u bod nhw i gyd
yn y gors cyn dyfodiad y Rhyfeiniaid i Fôn yn y flwyddyn 61.
A bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yno ers dau gant o flynyddoedd cyn
Crist. |
| R. HUGHES: |
'Roedd 'na bobol yn
byw yn yr ardal pryd hynny felly! |
| W. O.
ROBERTS: |
'Roedd 'ma le prysur
iawn yn ôl bob arwydd. Mae'n debyg y bydda llongau o Iwerddon
yn hwylio i fyny afon Cymyran, yn cario caethweision ar 'u ffordd
i Rufain. 'Roedd yno arwyddion masnach hefyd, am mai nid pethau
wedi cael eu gwneud yn Sir Fôn yn unig oedd yn y gors, ond
o bob rhan o'r byd. |
| R. HUGHES: |
Welsoch chi rywfaint
o arian yno - ceinioga a phetha felly? |
| W. O.
ROBERTS: |
O - nid efo petha
felly oedda nhw'n prynnu a gwerthu ond efo barrau o hearn, dwy droedfedd
o hyd - 'roedd 'na lawer iawn o rheiny o gwmpas. |
| R. HUGHES: |
Pa hyd ddeudsoch chi? |
| W. O. ROBERTS: |
Dwy droedfedd. |
| R. HUGHES: |
Bobol bach leciwn
i ddim cael llond pocad o rheiny yn newid! |
| W. O.
ROBERTS: |
Na finna - a mi oedd
'na rai ohonyn nhw wedi cael eu torri a'u toddi, yn dangos fod yma
efail wrth law medda Syr Cyril Fox - a mi oedd ôl trwsio ar
rai o'r petha hefyd. |
| R. HUGHES: |
Ymhle mae nhw rwan? |
| W. O.
ROBERTS: |
Mae 'na betha yn dal
i ddwad i'r golwg o hyd - mae gen i ddau neu dri yn y ty 'rwan yn
barod i'w hanfod i ffwrdd. Ond yng Nghaerdydd y mae'r rhan fwyaf.
A deud y gwir 'roedd hi wedi mynd yn ffrae rhwng yr engineer a finna
ynglyn â hynny. Un o'r De oedd o, ac wrth gwrs ishio anfod
popeth i Gaerdydd, a finna ishio cael 'u cadw nhw ym Mangor. |
| J. OWEN: |
'Roeddach chi'n y'ch
lle hefyd. A mae'n biti garw na fasa plant yr ardal wedi cael gwell
cyfle i'w gweld nhw, cyn iddyn nhw gael 'u danfod i ffwrdd. |
| R. HUGHES: |
'Roedd 'no esgyrn
hefyd onid oedd? |
| W. O. ROBERTS: |
O oedd, lawer iawn. |
| R. HUGHES: |
Oes gan rywun ryw
syniad sut a phan y rhoddwyd yr holl betha yn y gors yn y lle cynta? |
| W. O.
ROBERTS: |
Wyr neb yn iawn. Petha'n
perthyn i ddynion oeddan nhw i gyd bron - dim ond un freichled yn
perthyn i ddynes ddaeth i'r golwg. |
| J. OWEN: |
Ac efallai mai arfau
rhyfel rhyw hen bennaeth oeddan nhw, yn cael eu bwrw i'r llyn rhag
gorfod eu rhoi i fyny i'r Rhufeiniaid. Neu, medda nhw, mi allan
fod wedi cael eu hoffrymu gan y Derwyddon, a'u rhoi mewn llyn cysegredig
yn ôl eu harferiad. |
| R. HUGHES: |
Fasa dim syndod i
hynny fod wedi digwydd ym Môn - hen gartref y Derwyddon. |